Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ebrill 2024
Amser:
09.30 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13861
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Tom Giffard AS Llyr Gruffydd AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dafydd Evans, Colegau Cymru Lisa Mytton, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Dr Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dona Lewis, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yn ei gyfarfod ffurfiol nesaf ymateb drafft i lythyr y Pwyllgor Cyllid yn gwahodd sylwadau ar gyfer llywio'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i dynnu sylw at bryderon am y sector diwylliant yng Nghymru o ganlyniad i doriadau yn y gyllideb, yn benodol amgueddfeydd.
4.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd ac Ysgrifenyddion y Cabinet i ailddatgan meysydd blaenoriaeth y Pwyllgor ar gyfer gweddill y Chweched Senedd.
4.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Llyfrau Cymru yn dilyn cyhoeddiad y tendr ar gyfer cylchgrawn newydd i Gymru.
4.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt deiseb ar ddarparu cymorth dyngarol i Gaza.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chyfres o gwestiynau.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft a chytunodd arni.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.